SWYDDOG CEFNOGI PROSIECT ARGYFWNG COSTAU BYW
Cardiff
Other
Annual
Permanent
UN LLAIS CYMRU
SWYDDOG CEFNOGI PROSIECT ARGYFWNG COSTAU BYW (37 awr yr wythnos) - Cyflog £33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartref
MAE'R SWYDD AM GYFNODAU PENODOL TAN 31 MAWRTH 2026
Darparu cymorth i'r Rheolydd Prosiect a'r Swyddog Prosiect, fydd yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithdai a chyfarfodydd, cadw cofnodion, gwneud gwaith ymchwil, cydlynu cyfathrebu a gweinyddu pecynnau TG y tîm. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neu brofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol fudd-ddeiliaid a sefydliadau. Dylai fod gennych wybodaeth fras am dechnegau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG rhagorol.
Bydd y tîm prosiect yn gyfrifol am gyflawni cynllun prosiect er mwyn rhoi gwell cymorth i aelwydydd incwm isel a phobl fregus mewn cymunedau ledled Cymru.
Bydd deiliaid y swydd yn gweithio gartref ac mae lwfans gweithio gartref yn daladwy.
(Un Llais Cymru yw'r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, ac mae'n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau a nifer fawr o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo'r sector).
Mae'r disgrifiad swydd a'r ffurflen gais ar gyfer y swydd ar dudalen flaen ein gwefan
DYDDIAD CAU - Ganol nos ar 19 Ebrill 2024
DYDDIAD CYFWELIAD: 3 Mai 2024.
Share: